Cynhaliwyd Cynhadledd ar Berchnogaeth Gymunedol yn Galeri, Caernarfon ar ddydd Iau, 28 Mehefin 2018 fel rhan o’r prosiect Marchnad Lafur Cymraeg. Nod y prosiect yn ei gyfanrwydd yw greu ymgysylltiad rhwng sectorau a chwmnioedd sydd a’r potensial o ddatblygu gwasanaethau a chynhyrchion sydd yn adeiladu ar sgiliau ieithyddol y Gymraeg.

Bwriad y gynhadledd hon oedd bod yn gam gyntaf  i ddatblygu clwstwr yn y sector mentrau cymunedol trwy fod yn gyfle i gychwyn trafodaeth ar sut all y prosiect bod yn gymorth i fentrau sy’n gweld gwerth yn y Gymraeg.

Drwy gydol y dydd o dan gadeiryddiaeth Elin Haf Gruffydd Jones  cafwyd cyflwyniadau difyr o astudiaethau achos a sesiynau ymgynghorol oedd o ddefnydd  i fentrau Cymdeithasol fel y gwelir isod:

Llety Arall Bwriad y fenter o Gaernarfon yw cynnig gwesty sy’n gwbl Gymraeg. Mae’r fenter wedi llwyddo i godi arian i sefydlu’r Llety trwy nifer o ffynonellau amrywiol
Menter Bro Dinefwr Wedi derbyn grant o’r Gronfa Loteri Fawr yn ddiweddar i adfywio Neuadd Dref Llandeilo i ganolfan amlbwrpas sy’n rhan o gynllun trosglwyddo asedau
Canolfan Cydweithredol Cymru Cyngor ar opsiynau strwythur ar gyfer busnesau, cymdeithasau ac elusennau
Wavehill Cyngor ar werthuso prosiectau
Cwmni Bro Ffestiniog Mae’r cwmni wedi sefydlu rhwydwaith o 12  menter gymdeithasol lwyddiannus sydd wedi dod at ei gilydd i gydweithio dan faner un cwmni bro. Mae’r mentrau yn cyflogi dros 150 ac yn amrywio o wasanaethau awyr agored, gwesty, cymorth i bobl fregus a’r unig gwmni Opera trwy gyfrwng y Gymraeg.
Menter Iaith Conwy Mae’r fenter yn grediniol taw mentergarwch yw’r ffordd ymlaen gan sefydlu sawl gwasanaeth newydd ar ôl profi’r galw’n lleol. Ynghyd a chwmni cyfieithu, sefydlu meithrinfa Dydd Derwen Deg a phrosiectau awyr agored mae’r fenter yn ddiweddar wedi llwyddo prynu’r hen fanc yn Llanrwst ar gyfer defnydd cymunedol.
Partneriaeth Ogwen Grŵp cymunedol sy’n cael ei ariannu gan y cynghorau cymunedol lleol  Bethesda, Llan Llechi a Llandyga.  Rôl y Bartneriaeth yw hyrwyddo a datblygu prosiectau sy’n adfywio ac yn atgyfnerthu economi a chymuned Dyffryn Ogwen sy’n cynnwys  gwaith clercio rheoli eiddo ar y stryd fawr, rhedeg siop a rhedeg cynllun hydro, ynni Ogwen.

 

Argymhellion

Arweiniodd y sesiynau hyn at drafodaeth fywiog ac adeiladol ar y camau gweithredol nesaf i symud y clwstwr yn ei blaen, gweler isod grynodeb o’r argymhellion.

Cymorth ymarferol

Un o’r prif themâu a godwyd oedd yr angen am gymhwysedd gyda nifer o’r mentrau oedd yn bresennol yn dweud bod wastad angen am bâr ychwanegol o ddwylo er mwyn ehangu ar y gwasanaethau ellir eu cynnig. Nodwyd taw un ffordd o wneud hyn oedd cyflwyno mwy o weithwyr cymdeithasol ar lawr gwlad sydd yn medru adnabod problemau’r gymuned. O’r drafodaeth nodwyd ei fod yn hanfodol ei fod yn rhywbeth sy’n cael ei wneud trwy’r sefydliadau / mentrau lleol ac nid awdurdodau lleol oherwydd y potensial o gael mwy o werth am y buddsoddiad.

Rhannu arfer da

Gwelwyd yn bwysig i rannu’r arferion da a rhannu gwaith datblygu’r mentrau gan nad oes dim i’w guddio ac mae’n medru hwyluso profiad i gyrff eraill gan eu bod yn cyd-weithio ac yn anelu at yr un nod. Mae’r potensial gyda’r prosiect Marchnad Lafur Cymraeg i hwyluos’r broses o rannu arferion da, a gall hwn yn y pendraw helpu ymateb i’r angen am fwy o gymhwysedd i lawer o’r mentrau. Efallai gellir gwneud ymarfer i fapio ac adnabod arbenigedd y mentrau unigol er mwyn gallu sicrhau bod y wybodaeth fwyaf perthnasol yn cael ei rannu.

Addasu yn ôl y galw

Mae’n bwysig nodi bod yr hinsawdd ieithyddol yn amrywio o le i le ond bod angen trin y Gymraeg yn rhan naturiol o’r mentrau hyn. Hynny yw bod y wasanaeth yn medru bod yn wasanaeth sy’n arwain trwy Cymraeg neu fod y wasanaeth yn Gymraeg yn naturiol oherwydd y gymuned mae’n ei wasanaethu.

Grŵp gweithredol

Trafodwyd y potensial o sefydlu grŵp gydag arbenigedd  yn y maes i fwydo syniadau gweithredol am y maes i’r Llywodraeth, Awdurdodau Lleol a chyrff eraill i geisio prif ffrydio’r ffordd yma o ddarparu gwasanaethau i’r gymuned a gwella proses o adnabod cyfleoedd newydd i gymunedau

Mentrau newydd

Roedd yna alw i gynyddu cymhwysedd y mentrau iaith i greu mentrau o’r newydd oherwydd yn y pendraw nod mentrau iaith yw bod yn fentrau i gymunedau lle mae’r Gymraeg yn rhan annatod ohonynt. Mae’n bosib y gallai’r mentrau gynnig gwasanaethau Cymraeg nad yw’n bodoli ar hyn o bryd trwy greu cronfeydd a dosbarthu cyllid megis drwy gronfeydd refeniw bychan er mwyn hwyluso’r arbenigedd sydd angen i ddatblygu mentrau, neu gronfeydd cyfalaf bychan er mwyn hwyluso denu cyllid ychwanegol cyfatebol.

Cyfleoedd gyrfaol

Gellir ystyried datblygu gwasanaeth neu gynnig tebyg i “Llwybro” yn y gorffennol ond a fyddai’n tynnu at ei gilydd y cyfleoedd chwilio am waith sydd ar gael heddiw e.e. Safle Swyddi. O fewn hyn gellir ystyried sefydlu Cronfa Cynyddu Defnydd fyddai’n galluogi siaradwyr Cymraeg i gwblhau cymwysterau fydd yn eu galluogi i weithio mewn meysydd lle mae yna prinder siaradwyr, e.e. awyr agored, gwersi nofio,  chwaraeon, gofal plant, gwaith ieuenctid ayyb.

Fframwaith briodol

Dylid ystyried creu fframwaith sydd yn gosod seiliau mesur ac asesu gweithredol gan adnabod ffyrdd o ddatblygu’r iaith yn yr economi.